Pwyll Pendefig Dyfed a oedd yn arglwydd ar #eith cantref Dyfed. A threiglweith ydd oedd yn Arberth, prif lys iddaw, a dyfod yn ei fryd ac yn ei feddwl fyned i hela. Sef cyfeir o’i gyfoeth a fynnei ei hela, Glynn Cuch. Ac ef a gychwynnwys y nos honno o Arberth, ac a ddoeth hyd ym Mhenn Llwyn Diarwya, ac yno y bu y nos honno. A thrannoeth yn ieuenctid y dydd cyfodi a orug, a dyfod i Lynn Cuch i ellwng ei gwn dan y coed. A chanu ei gorn, a dechreu dygyfor yr hela, a cherdded yn ol y cwn, ac ymgolli a’i gydymdeithon.
|
Pwyll Pendefig Dyfed a oedd yn arglwydd ar seith cantref Dyfed. A threiglweith ydd oedd yn Arberth, prif lys iddaw, a dyfod yn ei fryd ac yn ei feddwl fyned i hela. Sef cyfeir o’i gyfoeth a fynnei ei hela, Glynn Cuch. Ac ef a gychwynnwys y nos honno o Arberth, ac a ddoeth hyd ym Mhenn Llwyn Diarwya, ac yno y bu y nos honno. A thrannoeth yn ieuenctid y dydd cyfodi a orug, a dyfod i Lynn Cuch i ellwng ei gwn dan y coed. A chanu ei gorn, a dechreu dygyfor yr hela, a cherdded yn ol y cwn, ac ymgolli a’i gydymdeithon.
|
Pwyll, prince de Dyfed, régnait sur les septs cantrefs [unités territoriales du Pays de Galles au Moyen Âge] de Dyfed. Un jour, comme il séjournait à Arberth – sa cour principale – il lui vint l’idée et l’envie d’aller à la chasse. L’endroit de ses domaines où il voulait chasser était Glyn Cuch. Il partit le soir même d’Arberth, et alla jusqu’à Pen Llwyn Diarwya, où il passa la nuit. Le lendemain, à la jeunesse du jour, il se leva et se rendit à Glyn Cuch pour lâcher ses chiens sous les bois. Et il sonne du cor, donne le signal de commencer la chasse, part à la suite des chiens et perd ses compagnons.
|
Ac fal y bydd yn ymwarandaw a llef yr erchwys, ef a glywei llef erchwys arall, ac nid oeddynt unllef, a hynny yn dyfod yn erbyn ei erchwys ef. Ac ef a welei lannerch yn y coed o faes gwa#tad; ac fal oedd ei erchwys ef yn ymgael ag y#tlys y llannerch, ef a welei garw o flaen yr erchwys arall. A pharth a pherfedd y llannerch, llyma yr erchwys a oedd yn ol yn ymordiwes ag ef, ac yn ei fwrw i’r llawr.
|
Ac fal y bydd yn ymwarandaw a llef yr erchwys, ef a glywei llef erchwys arall, ac nid oeddynt unllef, a hynny yn dyfod yn erbyn ei erchwys ef. Ac ef a welei lannerch yn y coed o faes gwastad; ac fal oedd ei erchwys ef yn ymgael ag ystlys y llannerch, ef a welei garw o flaen yr erchwys arall. A pharth a pherfedd y llannerch, llyma yr erchwys a oedd yn ol yn ymordiwes ag ef, ac yn ei fwrw i’r llawr.
|
Tandis qu’il écoutait les aboiements de sa meute, voici qu’il entendit les cris d’une autre meute, qui n’aboyait pas de la même façon, et qui arrivait à la rencontre de ses propres chiens. Il vit alors dans le bois une clairière, un terrain plat, et lorsque sa meute atteignit la lisière de la clairière, il aperçut un cerf fuyant devant l’autre meute. Vers le milieu de la clairière, la meute qui le poursuivait le rattrapa et le fit tomber à terre.
|
Ac yna edrych ohonaw ef ar liw yr erchwys, heb hanbwyllaw edrych ar y carw. Ac o’r a wel#ei ef o helgwn y byd, ni wel#ei cwn unlliw ag wynt. Sef lliw oedd arnunt, claerwyn llathreidd, ac eu clu#teu yn gochion. Ac fal y llathrei wynned y cwn, y llathrei coched y clu#teu. Ac ar hynny at y cwn y doeth ef, a gyrru yr erchwys a laddy##ei y carw i ymdeith, a llithiaw ei erchwys ei hunan ar y carw.
|
Ac yna edrych ohonaw ef ar liw yr erchwys, heb hanbwyllaw edrych ar y carw. Ac o’r a welsei ef o helgwn y byd, ni welsei cwn unlliw ag wynt. Sef lliw oedd arnunt, claerwyn llathreidd, ac eu clusteu yn gochion. Ac fal y llathrei wynned y cwn, y llathrei coched y clusteu. Ac ar hynny at y cwn y doeth ef, a gyrru yr erchwys a laddyssei y carw i ymdeith, a llithiaw ei erchwys ei hunan ar y carw.
|
Alors il regarda la couleur de ces chiens, sans plus songer à regarder le cerf. Or, de tous les chiens de chasse qu’il avait pu connaître, il n’en avait jamais vu de cette couleur. Ils étaient d’un blanc brillant et lustré, leurs oreilles étaient rouges : le blanc de leurs corps luisait autant que le rouge de leurs oreilles. Pwyll, alors, s’approcha des chiens, écarta la meute qui avait tué le cerf, et distribua le cerf à sa propre meute, à la curée.
|